O straeon digidol a marchnata i ddeallusrwydd artiffisial, arweinyddiaeth a hawlfraint, bydd y cyrsiau hyn yn eich cefnogi i ddatblygu'r sgiliau strategol ac ymarferol i wneud y canlynol: 

  • cysylltu'n fwy ystyrlon â'ch cynulleidfaoedd 
  • gweithio'n fwy effeithlon a defnyddio adnoddau'n well 
  • gwella eich hyder digidol 
  • archwilio syniadau newydd a meithrin ffyrdd newydd o feddwl a gweithio'n ddigidol. 

Beth sydd gennym i’w gynnig

  • 10 cwrs byr, pob un yn cael ei gynnig ddwywaith 
  • Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim 
  • Cânt eu cynnal yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2026 
  • Mae pob cwrs yn cynnwys dau weithdy rhyngweithiol ar-lein (tair awr yr un)  
  • Grwpiau bach (hyd at 25 o bobl) gyda digon o drafod a dysgu ar y cyd 
  • Mae pob cwrs yn annibynnol, ond mae'r pynciau'n gysylltiedig, felly gallwch gofrestru ar gyfer un neu fwy o gyrsiau. 

Mae'r cyrsiau hyn yn chwalu’r rhwystrau sy’n gallu bod yn llethol, gydag arweiniad arbenigol a chefnogaeth gan gymheiriaid, gan eich helpu i feithrin y ddealltwriaeth strategol sydd ei hangen i wneud penderfyniadau gwybodus am yr hyn sy'n gweithio i'ch cyd-destun.  

Y cyrsiau

  • Arweinyddiaeth sy'n Hyderus yn Ddigidol: Helpu arweinwyr diwylliannol a phobl sy'n creu newid i ymdopi â heriau digidol 
  • Deallusrwydd Artiffisial - Strategaeth: Cyflwyniad strategol i ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer arweinwyr diwylliannol a'r rhai sy'n creu newid 
  • Meithrin Diwylliant o Arloesedd Digidol: Strategaethau i gefnogi arloesedd digidol mewn sefydliadau diwylliannol  
  • Hawlfraint, Eiddo Deallusol a Digidol: Grymuso eich arweinyddiaeth â hyder hawlfraint 
  • Meithrin Hyder a Sgiliau Digidol: Cefnogi sefydliadau diwylliannol i ddatblygu hyder digidol ar draws timau 
  • Deallusrwydd Artiffisial Rhagarweiniol - Arbrofi: Helpu sefydliadau diwylliannol sy'n arbrofi gyda Deallusrwydd Artiffisial mewn ffordd bwrpasol, risg isel 
  • Marchnata Digidol - Yr Hanfodion: Cyflwyno marchnata digidol ar gyfer sefydliadau diwylliannol 
  • Ymgysylltu Digidol Hygyrch a Chynhwysol - Yr Hanfodion: Deall diddordebau ac anghenion cynulleidfa ar-lein eich sefydliad diwylliannol. 
  • Straeon Digidol: Troi cynnwys diwylliannol yn straeon digidol diddorol 
  • Digideiddio a Chadwraeth Ddigidol - Yr Hanfodion: Pam, beth a sut ynghylch digideiddio a chadwraeth, ar gyfer sefydliadau diwylliannol 

Mae'r rhaglen hon yn cael ei ariannu gan Is-adran Diwylliant Llywodraeth Cymru i feithrin hyder digidol, gallu ac arloesedd ar draws y sector diwylliannol a mynd i'r afael â bylchau mewn llythrennedd digidol, seilwaith, ymgysylltu a datblygu'r gweithlu. Mae'r gyfres hyfforddi wedi'i chynllunio i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant, yn enwedig Uchelgais 13 ac Uchelgais 15

Ar gyfer pwy mae’r cyrsiau?

Mae'r rhaglen hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol, rheolwyr ac ymarferwyr yn y sector celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yng Nghymru. Mae rhai cyrsiau wedi'u hanelu fwy at arweinwyr a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac eraill at ymarferwyr; darllenwch ddisgrifiadau'r cyrsiau i gael rhagor o wybodaeth.  

Mae'r cyrsiau'n darparu ar gyfer amrywiaeth o lefelau o ran hyder, llythrennedd a sgiliau, ac nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol. Mae pob cwrs yn annhechnegol ac rydym yn egluro unrhyw jargon.   

Archebu

Byddwn yn defnyddio dull cyntaf i'r felin o ran archebu, gyda rhestr aros. Oherwydd capasiti cyfyngedig, ac er mwyn sicrhau cydbwysedd o sefydliadau o wahanol fathau a meintiau, efallai y bydd angen i ni hidlo archebion ar rai cyrsiau i raddau. Ar ôl archebu eich lle, os bydd eich amgylchiadau'n newid ac nad ydych chi'n gallu dod mwyach, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu rhoi eich lle i rywun ar y rhestr aros. 

Gan mai'r cyntaf i'r felin gaiff archebu lle ar y cwrs, gallwch archebu lle i'ch sefydliad a gallwn dderbyn enwau cyfranogwyr penodol yn ddiweddarach os oes angen ychydig mwy o amser arnoch i wneud trefniadau i’ch tîm gymryd rhan. 

Cynigir y cwrs hwn yn rhad ac am ddim, gyda chefnogaeth Is-adran Diwylliant Llywodraeth Cymru. 

Iaith a Mynediad

Mae The Audience Agency wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb sy'n bresennol yn gallu cymryd rhan lawn mewn cyd-destun lle gallant deimlo'n gyfforddus i fynegi eu hunain yn eu dewis iaith. 

Bydd yr holl ddeunyddiau ysgrifenedig ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Bydd cyrsiau dethol yn cael eu cyd-hwyluso yn Gymraeg. 

Bydd ail fersiwn pob cwrs yn cynnwys cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg. 

Pryd fydd y cyrsiau'n cael eu cynnal?

Sylwch fod y ddwy Rownd yr un fath, felly cofrestrwch ar gyfer un ohonynt yn unig.  

Arweinyddiaeth sy'n Hyderus yn Ddigidol: 

  • Rownd Un: 2 Chwefror 2026 (Rhan 1) a 9 Chwefror 2026 (Rhan 2) 
    Archebwch eich lle nawr > 
  • Rownd Dau: 23 Mawrth 2026 (Rhan 1) a 30 Mawrth 2026 (Rhan 2) (Wedi'u hwyluso ar y cyd yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg) 
    Archebwch eich lle nawr >

 

Deallusrwydd Artiffisial – Strategaeth:  

 

Meithrin Diwylliant o Arloesedd Digidol: 

 

Hawlfraint, Eiddo Deallusol a Digidol: 

 

Meithrin Hyder a Sgiliau Digidol: 

 

Deallusrwydd Artiffisial Rhagarweiniol - Arbrofi: 

 

Marchnata Digidol - Yr Hanfodion: 

  • Rownd Un: 9 Chwefror 2026 (Rhan 1) a 16 Chwefror 2026 (Rhan 2) 
    Archebwch eich lle nawr >
  • Rownd Dau: 9 Mawrth 2026 (Rhan 1) a 16 Mawrth 2026 (Rhan 2) (Wedi'u hwyluso ar y cyd yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg) 
    Archebwch eich lle nawr >

 

Ymgysylltu Digidol Hygyrch a Chynhwysol - Yr Hanfodion: 

  • Rownd Un: 12 Chwefror 2026 (Rhan 1) a 19 Chwefror 2026 (Rhan 2)
    Archebwch eich lle nawr > 
  • Rownd Dau: 11 Mawrth 2026 (Rhan 1) a 18 Mawrth 2026 (Rhan 2) (Wedi'u hwyluso ar y cyd yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg) 
    Archebwch eich lle nawr > 

 

Straeon Digidol: 

  • Rownd Un: 24 Chwefror 2026 (Rhan 1) a 4 Mawrth 2026 (Rhan 2) 
    Archebwch eich lle nawr >
  • Rownd Dau: 23 Mawrth 2026 (Rhan 1) a 27 Mawrth 2026 (Rhan 2) (Wedi'u hwyluso ar y cyd yn Gymraeg, gyda chyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg) 
    Archebwch eich lle nawr >

 

Digideiddio a Chadwraeth Ddigidol - Yr Hanfodion: 

Gwybodaeth am yr hyfforddwyr 

Anra Kennedy, Cyfarwyddwr Ymgynghorol ar gyfer Dysgu a Digidol yn The Audience Agency 

Mae Anra yn gweithio gyda sefydliadau diwylliannol yn y DU ac yn rhyngwladol i'w helpu i lywio effaith trawsnewid digidol yn llwyddiannus, datblygu eu hymarfer a meithrin gwytnwch. Mae hi'n dylunio ac yn darparu ymchwil gweithredu, hyfforddiant a rhaglenni meithrin gallu ar gyfer arweinwyr ac ymarferwyr diwylliannol, i gyd yng nghyd-destun effaith gymdeithasol ac ymarfer sy'n seiliedig ar werthoedd. Mae ei gwaith yn cynnwys edrych y tu hwnt i'r celfyddydau a threftadaeth i ddeall y ffyrdd y mae newidiadau cymdeithasol a digidol yn effeithio ar allu sefydliadau diwylliannol i wireddu cenadaethau. Mae hi'n cefnogi cleientiaid i integreiddio'r mewnwelediadau hyn i'w strategaeth a'u hymarfer, gan eu helpu i ddeall a mynd i'r afael â heriau a gwreiddio ffyrdd newydd o weithio. Ar hyn o bryd mae Anra hefyd yn cadeirio Ymddiriedolaeth Treftadaeth, gan arwain proses adfer busnes radical.    

Alec Ward, Uwch Ymgynghorydd, Rheolwr Sgiliau Digidol yn The Audience Agency 

Mae gyrfa Alec wedi canolbwyntio ar feithrin gallu digidol a hyder ar gyfer sefydliadau diwylliannol, gyda ffocws cryf ar amgueddfeydd, drwy ddarparu sgiliau digidol a chymorth llythrennedd. Mae ganddo brofiad helaeth o ddatblygu hyfforddiant ac adnoddau ynghylch datblygu sgiliau digidol ymarferol, gan gynnwys strategaeth cynnwys digidol, golygu fideo, ffotograffiaeth gwrthrychau, creu modelau digidol 3D a mwy. Mae Alec yn canolbwyntio ar hyfforddiant drwy gyd-destun strategol sefydliadol ehangach, drwy fynd i'r afael â’r 'pam' mewn unrhyw weithgaredd digidol, yn ogystal â'r 'sut'. Yn ystod y degawd diwethaf, mae'r cymorth sgiliau digidol a llythrennedd hwn wedi cael ei ddarparu mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys drwy waith ymgynghori, adnoddau ar-lein, gweithdai rhithiol ac wyneb yn wyneb, seminarau, cyrsiau anghydamserol a thiwtorialau fideo.  

Jane Finnis, Cyfarwyddwr Ymgynghorol yn The Audience Agency 

Mae Jane yn arbenigwr digidol entrepreneuraidd a chydweithredol gyda dros 30 mlynedd a mwy o brofiad ar lefel uwch yn arwain syniadau ac arferion newydd ym maes cydgyfeiriant y celfyddydau, diwylliant a thechnoleg. Mae hi wedi treulio'r degawd diwethaf yn gweithio i ddod â'r sector amgueddfeydd ac orielau byd-eang i mewn i'r 21ain ganrif, gan hyrwyddo dull o raglennu diwylliannol sy'n cael ei yrru gan y gynulleidfa. Mae hi wedi gweithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol ar amrywiaeth eang o fentrau strategol, digidol, cyhoeddi, ymgysylltu â chynulleidfaoedd, addysg ac ymchwil gydag amrywiaeth eang o bartneriaid. Arweiniodd Jane y gwaith o ddod â Culture24 yn rhan o The Audience Agency ym mis Tachwedd 2023 gan ddod â dwy elusen annibynnol sefydledig a dibynadwy at ei gilydd gyda chenhadaeth a gwerthoedd cyffredin. Yn TAA, mae hi'n gweithio ar adnoddau newydd ar gyfer y sector diwylliannol sy'n cyfuno profiad ac arbenigedd ategol. 

Stephen Miller, Prif Swyddog Technoleg The Audience Agency     

Mae Stephen yn dechnolegydd medrus iawn gyda dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ar draws elusennau, sefydliadau ymchwil, awdurdodau lleol ac iechyd, llywodraethau a busnesau. Fel Prif Swyddog Technoleg yn The Audience Agency, mae Stephen wedi bod yn allweddol yn y gwaith o oruchwylio'r gwaith o drawsnewid pensaernïaeth data'r sefydliad i gefnogi ei nodau strategol. Mae'n arwain y gwaith o ddatblygu gwasanaethau a systemau data digidol sy'n sail i ymgynghori a gwasanaethau, gan sicrhau bod gwybodaeth sy'n seiliedig ar ddata yn cael ei hintegreiddio'n gadarn i'r broses o wneud penderfyniadau ar draws y sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth. Mae Stephen ar flaen y gad o ran mentrau deallusrwydd artiffisial (AI) moesegol a dysgu peirianyddol (ML), yn TAA ac ar draws y sector.  

Mae Naomi Korn Associates yn arweinydd yn y DU, sy'n arbenigo mewn eiddo deallusol, hawlfraint, diogelu data a thrwyddedu. Ers dros 20 mlynedd, maent wedi gweithio ar draws y sectorau diwylliannol, treftadaeth, elusennol, addysg a phreifat. Mae'r tîm, dan arweiniad Naomi Korn, Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol, yn dod ag amrywiaeth o arbenigwyr ynghyd gyda degawdau o arbenigedd a sgiliau sy'n benodol i'r sector. Maent yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi dan arweiniad hyfforddwyr profiadol ac agos-atoch.