An introductory session for all cultural organisations (or those needing a reminder!)

Did you know that any cultural organisation in Wales can access free support to understand their audiences better?

Funding from the Arts Council of Wales has meant that since 2019 all organisations in Wales have been able to access:

  • 1-2-1 support and advice from audience development specialists
  • Help identifying current and potential audiences
  • Ticketing and survey analytics via Audience Answers
  • National benchmark datasets
  • Audience Spectrum segmentation
  • Support to engagement new/inclusive audiences
  • Bilingual audience surveys
  • Regular skillset training and webinars on latest evidence findings
  • Frameworks, resources, case studies and facilitated knowledge sharing

Provided by the Audience Agency’s team of consultants and support specialists, these services are available to all arts centres, galleries, theatres, film or music venues, museums, heritage sites, festivals, outdoor arts and community arts organisations in Wales.

In this free online session, we’ll share an overview of the services available (including the Audience Answers dashboard), answer any questions you may have, and signpost next steps.

This session will be in English.
Free, online (Zoom)

Wednesday 17 July, 2:00 - 3:00 PM

Book your free place

Manteisio i’r eithaf ar y rhaglen gymorth am ddim i ddeall cynulleidfaoedd yng Nghymru

Sesiwn gyflwyno ar gyfer pob sefydliad diwylliannol (neu’r rhai sydd angen eu hatgoffa!)

Oeddech chi’n gwybod bod unrhyw sefydliad diwylliannol yng Nghymru yn gallu cael gafael ar gymorth am ddim i ddeall eu cynulleidfaoedd yn well?

Ers 2019, mae cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru wedi golygu bod pob sefydliad yng Nghymru wedi gallu cael mynediad at y canlynol:

  • Cymorth a chyngor un-i-un gan arbenigwyr datblygu cynulleidfaoedd
  • Help i adnabod cynulleidfaoedd presennol a darpar gynulleidfaoedd
  • Dadansoddiadau o arolygon a thocynnau trwy Audience Answers
  • Setiau data meincnodi cenedlaethol
  • Segmentau’r Audience Spectrum
  • Cymorth i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd/cynhwysol
  • Arolygon dwyieithog o gynulleidfaoedd
  • Hyfforddiant sgiliau rheolaidd a gweminarau ar ganfyddiadau’r dystiolaeth ddiweddaraf
  • Fframweithiau, adnoddau, astudiaethau achos a sesiynau rhannu gwybodaeth wedi’u hwyluso

Mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu gan dîm o ymgynghorwyr ac arbenigwyr cymorth yn Audience Agency, ac maent ar gael i bob canolfan gelfyddydau, oriel, theatr, lleoliad ffilm neu gerddoriaeth, safle treftadaeth, gŵyl, sefydliad celfyddydau cymunedol a sefydliad celfyddydau awyr agored yng Nghymru.

Yn y sesiwn ar-lein am ddim yma, byddwn yn rhoi trosolwg o’r gwasanaethau sydd ar gael (gan gynnwys dangosfwrdd Audience Answers), yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi ac yn eich cyfeirio at y camau nesaf.

Sesiwn yn y Saesneg.